Y mae’n CYDWEITHFA NI yn eiddo 100% i’w haelodau. Y chi yw’r rheini.

 

Ymunwch â ni i gael bargen deg ar ynni

Corff ynni cymunedol yw’r Small Wind Co-op ac iddo ychydig o nodweddion gwahanol.

Rydym wedi mynd i bartneriaeth gyda Co-operative Energy fel y gellwch chi ddewis defnyddio’r trydan a gynhyrchwn, lle bynnag y boch yn y Deyrnas Unedig.

A gellwch elwa o gynllun newydd gan y Llywodraeth sy’n golygu y bydd yr elw rhagamcanol o 4.5 – 6.5% yn ddi-dreth i lawer o bobl hefyd.

Rydym wedi’i gwneud mor rwydd ag sy’n bosib ymuno â ni – gellwch ymuno ar lein neu drwy’r post, a thanysgrifio am gyfranddaliadau drwy drosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu siec – beth bynnag sy’n gyfleus i chi. Gellwch ymuno â’n cydweithfa ni am gyn lleied â £100.

ELW RHAGAMCANOL O 4.5-6.5%

Ar eich buddsoddiad – dewiswch fondiau neu gyfranddaliadau

YN DDI-DRETH

Caiff y rhan fwyaf o bobl eu llog yn ddi-dreth o dan y Lwfans Cynilion Personol newydd

DEFNYDDIWCH EICH YNNI’CH HUN

Gellwch ddewis defnyddio’r ynni a gynhyrchwn yn eich cartref neu’ch busnes eich hun

CRONFA GYMUNEDOL

Byddwn yn talu i mewn i gronfeydd cymunedol lleol yn lleoliad pob tyrbin

 

Ein Tîm

Mae’r Small Wind Co-op wedi cael ei rhoi at ei gilydd gan y tîm yn Sharenergy, sydd wedi cefnogi mwy na 35 o brosiectau ynni cymunedol llwyddiannus

Eithne GeorgeEITHNE GEORGE

Cyfarwyddwr

Mae Eithne yn un o gydsylfaenwyr Sharenergy ac yn treulio’i dyddiau’n rhoi ôl-gefnogaeth hanfodol i fwy nag 20 o Gymdeithasau ynni cymunedol. Mae Eithne hefyd yn un o gydsylfaenwyr yr Hub, rhwydwaith byd-eang o fannau gwaith mentrau cymdeithasol

 

JT_cropJEREMY THORP

Cyfarwyddwr

Arbenigwr mewn ynni adnewyddol yw Jeremy Thorp, ac yntau’n gweithio ar draws y technolegau. A chanddo gefndir mewn modelu grid, y mae erbyn hyn yn arwain prosiect ymchwil Sharenergy ar y grid yng nghefn gwlad ar yr un pryd â chefnogi amryw o brosiectau ynni cymunedol

 

jon_cropJON HALLÉ

Cyfarwyddwr

Jon Hallé yw cydsylfaenydd arall Sharenergy. Mae’n gweithio ym maes ynni cymunedol er 2003 gyda Goldenfuels, Energy4All a Sharenergy, ac fe’i dyfarnwyd yn Hyrwyddwr Ynni Cymunedol yn 2015

 

leila_cropLEILA SHARLAND

Rheolwr Prosiect

Leila Sharland yw’r prif arweinydd prosiect i Small Wind Co-op. Mae gan Leila gefndir mewn tyrbinau gwynt canolig eu maint ar y raddfa a ddefnyddir ar ffermydd, a hithau wedi gweithio i Dulas a Digital Engineering cyn ymuno â Sharenergy yn 2014.

 

Ymunwch â Ni

I ymuno â ni, lawrlwythwch ein cynnig cyfranddaliadau (yn Gymraeg neu Saesneg) neu bwriwch olwg ar ein tudalen Crowdfunder (Saesneg yn unig)

Mae’r Small Wind Co-operative yn Gymdeithas Gofrestredig (Cydweithfa) wedi’i Chofrestru’r gyda’r AYA, rhif 32279R